Mae Prif Weithredwr RenewableUK, Dan McGrail, wedi dweud wrth Bwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU yn Llundain fod gwynt arnofiol yn cynnig manteision diwydiannol, economaidd ac amgylcheddol enfawr i Gymru a gweddill y DU.
Mae Ystad y Goron wedi ymrwymo i alluogi datblygiad 4GW o wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd (rhwng Cymru, de-orllewin Lloegr ac Iwerddon) erbyn 2035, gyda’r potensial i ddarparu ar gyfer 20GW pellach erbyn 2045.
Yn yr arwerthiannau pŵer glân eleni ar gyfer Contractau Gwahaniaeth, neilltuodd Gweinidogion y DU £24m ar gyfer gwynt arnofiol am y tro cyntaf, gan alluogi prosiect TwinHub yn y Môr Celtaidd i fynd yn ei flaen. Mae RenewableUK yn annog y Llywodraeth i sicrhau bod yr arwerthiannau blynyddol hyn yn cael eu dylunio mewn ffordd sy’n sicrhau cymaint o gapasiti newydd â phosibl, yn ogystal ag adeiladu ein cadwyn gyflenwi.
Dywedodd Mr McGrail wrth y pwyllgor:
“Mae gwynt arnofiol yn gyfle mawr iawn ar gyfer twf byd-eang ac mae gan y DU safle blaenllaw yn hyn o beth. Gan ein bod wedi cymryd safbwynt symudwr cynnar, gallwn sefydlu ein hunain fel arweinydd byd-eang yn y dechnoleg hon, gan adeiladu diwydiant newydd yma ac allforio technoleg ledled y byd.”
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targed o 5GW o wynt arnofiol erbyn 2030 ac wedi darparu £160 ar gyfer uwchraddio porthladdoedd i alluogi gweithgynhyrchu ar lan y cei ar gyfer gwynt arnofiol. Ychwanegodd Mr McGrail:
“Mae’n wirioneddol hanfodol ein bod ni’n adeiladu’r seilwaith porthladd newydd sydd ei angen arnom, ond mae gennym ni broses eithaf araf wrth adeiladu’r seilwaith hwnnw yn y wlad hon. Mae angen newidiadau sylweddol yn ein seilwaith porthladd er mwyn galluogi gwynt arnofiol, ac mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod angen gwneud hynny, felly mae’n rhaid deall y cyllid o £160m fel cam cyntaf.”
Croesawodd hefyd ymrwymiadau Ystad y Goron i alluogi datblygiad gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, gan ddweud: “Mae gan Ystâd y Goron swyddogaeth bwysig o ran anfon signal hirdymor ar gyfer y dyfodol, gan greu fframwaith ar gyfer sut rydym yn buddsoddi yn y sector. Mae gosod targedau yn wych, ond os byddwch yn adeiladu 4GW mae angen i chi hefyd wybod beth sydd ar ôl a phryd – mae angen map ffordd arnom ar gyfer agor y tu hwnt i 4GW, gan wneud y gorau o gylchoedd prydlesu i gael buddsoddiad cynnar yn y gadwyn gyflenwi.”
Tynnodd sylw at y cyfleoedd i adeiladu ffatrïoedd newydd yng Nghymru a gweddill y DU, a nododd y gallai arwerthiannau pŵer glân ar gyfer Contractau Gwahaniaeth helpu i ysgogi hyn:
“Nid adeiladu diwydiant sy’n seiliedig ar signalau pris yn unig yw’r llwybr mwyaf cynaliadwy. O fewn y fframwaith cystadleuol hwnnw, mae angen inni hefyd roi gwerth ar ddatblygu economaidd, arloesi, cynaliadwyedd, swyddi, amrywiaeth ac effaith gymunedol – a chymryd hynny i ystyriaeth mewn arwerthiannau CfD. Mae’n rhaid i chi ofalu am bris oherwydd mae hynny’n bwysig i ddefnyddwyr ac i gystadleurwydd, ond mae gwerthfawrogi ffactorau eraill yn cael ei ganiatáu hefyd.”
Gorffennodd drwy ddweud bod angen mandad newydd gan y Llywodraeth ar y rheoleiddiwr Ofgem i alluogi adeiladu seilwaith grid newydd ar gyfer prosiectau newydd:
“Ni ddylem danbrisio arwyddocâd yr her o adeiladu’r seilwaith grid sydd ei angen. Mae faint o amser y mae’n ei gymryd a’r cymhlethdod o safbwynt cydsynio yn sylweddol. Ond fy mhwynt fyddai bod Net Zero wedi bod yn y gyfraith ers 2019, ac nid oes gan y rheolydd Ofgem Net Zero yn ei fandad o hyd. Pe bai’n gwneud hynny, byddai’n rhaid dechrau meddwl am hyn mewn ffordd fwy strategol – ac mae angen mynd i’r afael â hynny’n fuan iawn.”