Mae Jeremy Smith, Rheolwr Datblygu Cymru yn RWE Innogy UK Ltd, wedi cael ei benodi Cadeirydd newydd Grŵp Strategaeth RenewableUK Cymru. Mae’n cymryd lle Richard Evans o RES, sydd wedi cadeirio’r grŵp ers 2013.
Wrth siarad am ei benodiad dywedodd, Jeremy Smith: “Mae’n ffaith adnabyddus bod Cymru wedi’i bendithio ag adnoddau ynni adnewyddadwy gwych. Fodd bynnag, mae gennym ffordd bell iawn i fynd i ddal fyny gyda chwaraewyr fel yr Alban sydd wedi adeiladu economi werdd ffyniannus ar gefn ynni adnewyddadwy. Fel Cadeirydd mae gen i gyfle gwych i ddylanwadu ar weithgareddau’r sector yng Nghymru, a weithio’n galed i dynnu sylw at y manteision enfawr i Gymru o ein diwydiant ynni gwyrdd sy’n tyfu.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Richard Evans am ei gyfraniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod prysur ac mae wedi helpu RenewableUK Cymru llywio ei ffordd drwy rai newidiadau mawr yn ystod y cyfnod hwn. ”
Dywedodd David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru: “Mae Jeremy yn aelod gwerthfawr a phrofiadol yn y Grŵp Strategaeth RenewableUK Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn agosach. Bydd un o’i swyddogaethau cyntaf fydd i annerch y gynhadledd Adnewyddadwy Cymru ar 21 Mai yng Nghaerdydd, lle y bydd cannoedd o bobl yn ymgasglu i drafod y materion sy’n wynebu’r diwydiant. “